Datganiad Grant Amddifadedd Disgyblion

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (PYDd) a phlant mewn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (PMG).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n blant mewn gofal (PMG).

Fel ysgol, rydym wedi cytuno ar y camau canlynol:

  1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  2. cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau er mwyn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy gyfrwng grwpiau ymyrraeth megis Dyfal Donc/Catch Up, Hwb Ymlaen a Chatt; ynghyd ag ymyrraeth i gwrdd ag anghenion emosiynol a chymdeithasol megis grŵp Ditectifs Meddwl, Talkabout a Chwarae Cadarnhaol
  3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau
  4. darparu gwisg ysgol a dillad addysg gorfforol ail-law
  5. darparu profiadau cyfoethog/ymweliadau addysgol
  6. cyfrannu tuag at gostau aelodaeth yr Urdd
  7. cyfrannu tuag at wersi peripatetig gitâr neu drwmped

Yn 2018-19, rhoddwyd i Ysgol Gynradd Brynsaron ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £14,950.

Yn Ysgol Gynradd Brynsaron, mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • ddarparu  ymyrraeth a chymorth i ddatblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol y dysgwyr
  • ysytyried dulliau uniongyrchol i ddelio ag anghenion penodol dysgwyr dan anfantais
  • wrando ar y dysgwyr a rhoi cyfle iddynt gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol