Croeso i Ysgol Brynsaron

Pleser o’r mwyaf yw eich croesawu i wefan Ysgol Gynradd Brynsaron.

Lleolir Ysgol Gynradd Brynsaron yng nghymuned gwledig Saron, yn ardal Llandysul.

Mae tua 45 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’n ysgol Categori A sy’n darparu addysg i ddisgyblion cymuned eang, rhwng 3-11 mlwydd oed. Cymraeg yw prif gyfrwng iaith bywyd a gwaith y plant Meithrin a Chyfnod Sylfaen (3-7 mlwydd oed). Yng Nghyfnod Allweddol 2 (7-11 mlwydd oed) mae Saesneg yn cael ei integreiddio gyda’r nod fod pob disgybl yn gwbl ddwyieithog ar ddiwedd Blwyddyn 6, erbyn iddynt bontio i’r addysg uwchradd.

Mae Ysgol Gynradd Brynsaron yn gymuned clos a gofalgar, sy’n sicrhau amgylchedd hapus a diogel i bawb. Mae athrawon a staff yr ysgol yn ymroddgar a chydwybodol; yn gweithio’n ddiwyd a diflino er mwyn cynnig trawsdoriad o brofiadau gwerthfawr a chyfleoedd helaeth i’r dysgwyr yn ein plith.

Mae Ysgol Gynradd Brynsaron yn darparu dysgu ac addysgu o’r ansawdd uchaf. Hyrwyddwn fod ein disgyblion yn ennyn balchder yn eu gwaith, gan anelu at y sêr er mwyn llwyddo. Sicrhewn fod pob disgybl yn cael cyfle cyfartal; mynediad i gwricwlwm eang a meithrin sgiliau amrywiol megis Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol – a hyn oll er mwyn eu galluogi a’u hysbrydoli i fod yn ddysgwyr annibynnol, gydol oes.

Mae’n amser cyffroes ym myd addysg ar hyn o bryd, gyda’r Llywodraeth yn cyflwyno cwricwlwm newydd sydd yn pwysleisio dynesiad holistig i addysg – ‘Dyfodol Llwyddiannus’.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Gwna’n harwyddair grisialu’r cyfan:

‘Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn’

Mwynhewch grwydro ein gwefan.